P-06-1249 Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Helen Reeves Graham, ar ôl casglu cyfanswm o 10,393 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae Syndrom Tourette yn effeithio ar 1 o bob 100 o blant. Nid yw'n gyflwr prin. Yng Nghymru mae 1 arbenigwr nad yw'n gweld plant.

Mae Syndrom Tourette yn anhwylder niwrolegol sy'n effeithio ar y system nerfol ac yn achosi ticiau. Mae ticiau yn symudiadau a synau anwirfoddol, sydyn ac ailadroddus. Gall Syndrom Tourette fod yn boenus ac yn wanychol.

Nid yw llawer o bobl yn gallu cael diagnosis oherwydd diffyg llwybr clinigol neu maent yn cael eu rhyddhau ar yr un diwrnod heb unrhyw ofal na chymorth meddygol parhaus. Nid rhegi yn unig yw Syndrom Tourette.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Gall peidio â chael gofal a chymorth meddygol arwain at broblemau iechyd meddwl hirdymor. Gall pobl â Syndrom Tourette gael anawsterau gyda gorbryder, cwsg, dicter ac ynysu cymdeithasol.

Mae ANGEN i ni gael llwybr priodol, clir a chlinigol, a mynediad at ddarpariaeth arbenigol a gofal meddygol i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Preseli Sir Benfro

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru